Cyflwyniad

Diben y papur hwn yw amlinellu tystiolaeth ysgrifenedig ar Sectorau â Blaenoriaeth Economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes.

Fel rhan o'i gwaith i ddatblygu'r economi, mae Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar Sectorau â Blaenoriaeth Economaidd sy'n hollbwysig i economi Cymru.  Mae hyn yn cyd-fynd ag ymyriadau ehangach o fewn yr Adran ac ar draws Llywodraeth Cymru i annog swyddi a thwf.

Rôl a Chylch Gwaith y Panelau Sector

Sefydlwyd chwe Phanel Sector o dan Raglen Adnewyddu'r Economi Llywodraeth Cymru yn 2011, sef Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, Diwydiannau Creadigol, Ynni a'r Amgylchedd, TGCh a Gwyddorau Bywyd.  Yn 2012, ychwanegwyd y Sectorau Twristiaeth ac Adeiladu.  Rôl y Panelau Sector yw rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ac arwain timau'r Sector gan ganolbwyntio ar greu swyddi a sbarduno twf economaidd.

Mae Panelau Sector yn datblygu strategaethau penodol ar gyfer sectorau unigol gan ystyried y cyfleoedd a'r bygythiadau sy'n deillio o'r cylch economaidd. 

Gall Panelau Sector roi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion llywodraethol o ardaloedd menter sector-benodol i ganolfannau cydweithredu i fusnesau, dinas-ranbarthau ac ardrethi busnes.

Strategaethau, Cynlluniau Gweithredu a Chynlluniau Cyflawni ar gyfer y Sectorau

Amlinellir blaenoriaethau strategol ar gyfer y Sectorau yng Nghynllun Cyflenwi'r Sectorau sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.  Mae'r Cynllun yn amlinellu'r cyfleoedd a'r heriau, yn ogystal â'r blaenoriaethau strategol byrdymor, tymor canolig a hirdymor.  Mae'r Sectorau yn rhoi diweddariadau rheolaidd am berfformiad yn erbyn blaenoriaethau strategol, a gaiff eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae'r Cynllun a'r diweddariadau am berfformiad y sectorau ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/sector/?skip=1&lang=cy

Ar 18 Medi, gwnaethom gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ystadegau sectorau â blaenoriaeth, sy'n cynnwys data ar Werth Ychwanegol Crynswth, swyddi cyflogeion, enillion fesul awr dynion a merched, cyflogaeth yn ôl lefel cymhwyster a rhai amcangyfrifon awdurdodau lleol.  Mae'r adroddiad ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/statistics-and-research/priority-sector-statistics/?lang=cy

Yn 2013/14 cefnogodd y gwasanaeth Sectorau a Busnes 37,058 o swyddi ledled Cymru, sy'n gynnydd o 65% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  Mae'r rhagolygon o ran prosiectau i greu swyddi yn y dyfodol yn gryf ac yn awgrymu bod y lefel hon o gyflawniad gwirioneddol yn gynaliadwy.

Dyrannu Adnoddau i Gefnogi Sectorau

Mae'r gyllideb a gyhoeddwyd gan y gwasanaeth Sectorau a Busnes ar gyfer 2014/15 yn cynnwys £51m o arian Refeniw a £83.1m o arian Cyfalaf.  Yn ogystal ag ariannu prosiectau i greu swyddi mewn sectorau penodol, mae'r gyllideb hon hefyd yn ariannu swyddogaethau cymorth sy'n gymwys i bob sector gan gynnwys Arloesi, Ymchwil a Datblygu, A4B, Entrepreneuriaeth, Masnach, Eiddo, Mynediad at Gyllid (gan gynnwys Cyllid Cymru) a chymorth digidol.

Dyrennir arian i brosiectau creu swyddi unigol gan ddefnyddio asesiad risg wedi'i seilio ar egwyddorion gwerth am arian.

Rhan allweddol o bob arfarniad prosiect yw asesiad o "gydnawsedd â strategaeth panel y sector" ac ystyrir buddiannau swyddi anuniongyrchol i'r economi, gan gynnwys cefnogaeth i'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Cynnydd / Cyfleoedd a Bygythiadau

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (DGU)

Ers ei sefydlu, mae'r panel wedi herio'r agwedd ad-daladwy ar gyllid mewn prosiectau cyfalaf ac arloesedd ac wedi herio lefelau cyllidebol y sector. Mae'r panel wedi lobïo am gyfres o ymyriadau Sgiliau sydd wedi'u hariannu'n ddigonol. At hynny, gwnaed argymhelliad uniongyrchol i gyfuno'r prif fforymau sy'n cael cymorth gan y Llywodraeth yn y sector DGU (cyrff masnachu Awyrofod, Modurol ac Electroneg a Meddalwedd) er mwyn creu un endid i gynrychioli'r diwydiant DGU.

Ardaloedd Menter

Mae dros 3,200 o swyddi wedi cael cefnogaeth yn yr Ardaloedd Menter sy'n ymwneud â DGU. Gyda thwf mewn is-sectorau allweddol fel y sectorau Modurol, Awyrofod, Rheilffyrdd a Gofod, mae'r Ardaloedd Menter sy'n ymwneud â DGU yn rhoi cyfle i Gymru fanteisio ar rywfaint o'r twf hwn drwy ehangu cwmnïau sydd eisoes yn bodoli a thargedu cyfleoedd mewnfuddsoddi. Y flaenoriaeth i'r sector yw hyrwyddo'r Ardaloedd Menter fel rhan bwysig o raglen masnachu DGU yn y DU a thramor. Mae hyn yn cynnwys rhoi blaenoriaeth i'r Ardaloedd Menter fel lleoliadau addas i brosiectau meithrin gallu ym maes DGU a thrafodaethau â mewnfuddsoddwyr posibl.

Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae cyfleoedd sylweddol i fanteisio ar gryfderau'r sectorau modurol ac awyrofod yng Nghymru a datblygu a chynyddu gallu ym maes Rheilffyrdd a segmentau twf uchel eraill y sector DGU.  Mae'r is-sectorau pwysig ym maes DGU wedi llwyddo i wrthsefyll y dirwasgiad byd-eang ac maent mewn sefyllfa dda i elwa o'r twf a ragwelir yn y dyfodol.

Y prif fygythiadau i gynaliadwyedd y sector DGU yw cost ynni, argaeledd deunyddiau, toriadau yng nghyllid Llywodraeth y DU e.e. amddiffyn a globaleiddio (gyda mwy o gystadleuaeth nid yn unig ar ffurf costau, ond ar ffurf maint a thechnoleg, gan lawer o economïau byd-eang) yn arwain at adleoli busnesau mewn gwledydd eraill a cholli buddsoddiadau uniongyrchol o dramor.  Mae bygythiadau pellach i'w gweld ar ffurf technolegau aflonyddgar newydd fel cyfansoddion a Gweithgynhyrchu Haenau Ychwanegol a'r perygl na fydd busnesau yng Nghymru yn buddsoddi digon er mwyn ymateb i'r heriau hyn.

Adeiladu

Yn ystod ei ail dymor, canolbwyntiodd y panel yn benodol ar gyflawni.  Hefyd, rhoddodd gyngor ar nifer o newidiadau rheoleiddiol a deddfwriaethol a oedd, ac sy'n, debygol o effeithio ar y sector, gan ganolbwyntio ar y ffordd orau o fodloni buddiannau busnesau ac annog twf economaidd.

Chwaraeodd y panel ran allweddol yn y gwaith o sefydlu Cronfa Ddatblygu beilot y Sector Adeiladu, sy'n ceisio helpu BBaChau yn y sector, a Rhaglen Construction Futures Wales, mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yng Nghymru.

Drwy ganolbwyntio ar gyflawni ac er mwyn ceisio cael barn ehangach y diwydiant, ar ddechrau 2014, trefnodd y panel nifer o ddigwyddiadau lle gallai cynrychiolwyr allweddol dethol o'r sector Adeiladu a sectorau cysylltiedig ymgysylltu â'r Panel. Bu'r broses hon yn ddefnyddiol iawn i'r panel wrth iddo lunio ei flaenstrategaeth ar sut i gynorthwyo'r sector.

Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae'r prosiectau arfaethedig sydd ar gael i gwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a nodir yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, yn sylweddol. Er enghraifft, y carchar newydd yn Wrecsam; gwaith i adeiladu gorsaf ynni newydd a seilwaith cysylltiedig yn Wylfa; gwaith i ddatblygu'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru a thu hwnt; a gwariant mawr ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Mae'r panel wrthi'n ceisio cyflwyno cymorth a fydd yn paratoi'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru i gyflawni'r prosiectau hyn. Mae angen cynnal yr ymrwymiad i hyrwyddo BIM (Modelu Gwybodaeth am Adeiladau) hefyd.

Er bod y cynlluniau i gyflwyno sawl prosiect seilwaith mawr yn gyfle amlwg i'r sector yng Nghymru, gellir eu hystyried yn fygythiad posibl hefyd yn yr ystyr bod rhaid sicrhau bod gan y gweithlu y sgiliau gofynnol a bod gan gwmnïau yng Nghymru y gallu a'r adnoddau i ddefnyddio'r cadwyni cyflenwi perthnasol er mwyn cael y budd economaidd mwyaf. Bydd rhaglen Construction Futures Wales yn ymyriad cymorth busnes allweddol i gynorthwyo'r sector yn hyn o beth.

Mae'r Ardal Fenter ar Ynys Môn yn gyfle mawr i'r sector o ran adeiladu prosiectau ynni, gan gynnwys y cyfle buddsoddi sylweddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith i adeiladu gorsaf niwclear newydd. Mae'r sector eisoes wedi rhoi cymorth ariannol i gwmni lleol yn Ynys Môn. Mae DU Construction yn ehangu, yn adeiladu canolfan weithredol newydd ac yn buddsoddi mewn peiriannau newydd er mwyn gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil datblygu Wylfa Newydd a phrosiectau eraill ar yr ynys. Bydd y buddsoddiad o £470,000, a gefnogwyd gan £210,000 gan y Gronfa Twf Economaidd, yn creu 20 o swyddi newydd yn yr Ardal.

Diwydiannau Creadigol

Ers i'r Panel gael ei sefydlu, mae Tîm y Sector Diwydiannau Creadigol wedi helpu i greu neu ddiogelu dros 2,900 o swyddi a denu buddsoddiad o fwy na £105m i Gymru.

Mae'r tîm wedi helpu busnesau creadigol Cymreig mewn amrywiaeth o is-sectorau, gan gynnwys y gyfres ddrama Y Gwyll/Hinterland, a dwy gyfres o ddrama ffantasi oriau brig y BBC, Atlantis. Ar wahân i lwyddiannau cartref, rydym hefyd yn denu buddsoddiad rhyngwladol i Gymru, gan dargedu dramâu teledu o safon uchel, gwaith cyd-gynhyrchu ar gyfer y teledu a ffilmiau, a chyfryngau digidol.  Ymhlith y prosiectau rhyngwladol y llwyddwyd i'w sicrhau mae tair cyfres o'r ddrama deledu o safon uchel Da Vinci's Demons a buddsoddiadau mewn swyddi cyfryngau digidol gan OysterWorld Games, Sorenson Media a Newsquest.

Mae 58 o brosiectau wedi cael cymorth drwy'r Gronfa Datblygu Digidol, a lansiwyd yn 2011 er mwyn helpu i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau digidol newydd a manteisio arnynt. Mae Sgrin Cymru, ein gwasanaeth lleoliadau ffilm a theledu, wedi helpu gyda mwy na 950 o ymholiadau cynhyrchu ers 2010, gan gynnwys Snow White and the Huntsman, Pride, Doctor Who, Casualty a Stella.  Helpodd ein gwasanaeth MEDIA Antenna Cymru gwmnïau yng Nghymru i gael dros €2.5m o grantiau gan raglen MEDIA yr UE (2007-2013).  Mae tîm y sector bellach yn rhedeg Desg Ewrop Greadigol Cymru, sy'n disodli MEDIA Antenna Cymru o dan y rhaglen newydd hon.

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gytundeb arbennig â Pinewood Shepperton i greu stiwdio newydd o'r radd flaenaf, sef Pinewood Studio Wales, a fydd yn rhan o rwydwaith byd-eang Pinewood o stiwdios ffilmio. Ochr yn ochr â hyn, mae Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau fasnachol o £30m ar gael ar gyfer gwaith cynhyrchu ffilmiau a deunydd teledu o safon uchel sy'n gymwys.

Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae arfordir gorllewinol yr UD yn farchnad darged flaenllaw ar gyfer masnach a buddsoddiad o hyd. Caiff ein gweithgarwch yn yr UD ac mewn mannau eraill ei ategu nawr gan ein cysylltiad â Pinewood, sy'n hyrwyddo Cymru a diwydiannau creadigol Cymru drwy eu swyddfeydd tramor.

Wrth i'r sector ehangu, rydym nawr yn canolbwyntio ar wella'r cyflenwad o bobl fedrus sy'n ymuno â'r diwydiant.  Mae'r Diwydiannau Creadigol yn unigryw am fod costau ymuno â marchnadoedd yn isel a chaiff busnesau a modelau busnes newydd eu sefydlu bob dydd.  Ond gall syniadau da gael eu disodli gan syniadau gwell a gall marchnadoedd y llwyddwyd i'w hennill yn gyflym gael eu colli yr un mor gyflym.  Mae angen sgiliau newydd drwy'r amser ac weithiau, mae eu hangen yn gyflymach nag y gall ein system addysg a hyfforddi eu darparu.

Gall proffil risg cymorth y llywodraeth fod yn uwch na'r proffil risg rydym yn gyfarwydd ag ef.  Mae'r ffaith nad oes digon o gyfalaf menter ar gael yng Nghymru yn golygu bod mwy o gyfrifoldeb ar y llywodraeth i ddarparu cyllid cynnar nag mewn diwydiannau eraill.  Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu strategaethau newydd a phriodol i sicrhau bod cydbwysedd priodol rhwng anghenion y sector a'r angen i sicrhau atebolrwydd priodol dros arian cyhoeddus.

Ynni a'r Amgylchedd

Ers i'r Panel gael ei sefydlu yn 2011, mae'r hinsawdd economaidd a gwleidyddol wedi newid yn sylweddol; yn benodol, mae'r ymdeimlad o risg wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae'r panel wedi cadarnhau mai Arian, Grid a Chaniatâd yw'r prif ffactorau galluogi ar gyfer buddsoddiadau. Felly, mae'r panel a'r tîm Ynni a'r Amgylchedd wedi canolbwyntio ar greu'r amgylchedd busnes cywir lle gall prosiectau ffynnu.

Gwnaed cynnydd ac mae Cymru yn gartref i sector Ynni ac Amgylchedd sy'n ffynnu, yn gytbwys ac yn tyfu (Adroddiad Innovas [1]). Mae fferm wynt ar y môr flaenllaw RWE Innogy, sef Gwynt y Môr, un o'r mwyaf o'i bath yn Ewrop, wedi arwain at ddatblygu Porthladd Mostyn ymhellach a dyfarnu mwy na £70m o gontractau i gwmnïau Cymreig.

Ardaloedd Menter

Bydd y sector Niwclear yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i fusnesau yng Nghymru ar draws yr economi gyfan na fyddant yn gyfyngedig i weithgarwch yng Nghymru na gwaith adeiladu newydd yn unig. Mae gan Gymru lawer o brofiad ym maes ynni niwclear a bydd hyn yn golygu y bydd busnesau Cymreig mewn sefyllfa dda i gystadlu ym marchnadoedd y DU, yr UE ac yn fyd-eang. Yn ogystal, mae Asesiad Opsiynau Trawsfynydd wedi helpu i ddiffinio cyfeiriad strategol cliriach ac mae rhagor o waith yn mynd rhagddo nawr i gael gwared ar risgiau o'r safle fel y gellir ei ddefnyddio at ddibenion ynni carbon isel.

Ar ôl i ddwy ardal arddangos forol oddi ar arfordir Cymru gael eu cyhoeddi'n ddiweddar, rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod buddsoddiadau yn y sector morol yn creu'r buddiannau economaidd mwyaf posibl, e.e. Deltastream.

Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae'r farchnad ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf, yn enwedig o gymharu â Lloegr. Gyda'r sector yn gweithio fel galluogydd, yn enwedig ar gyfer y sectorau Adeiladu a Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, wrth i brosiectau mawr gael eu cyflwyno, caiff rhagor o gyfleoedd eu creu, yn enwedig cyfleoedd i adeiladu adeiladau carbon isel ar gyfer y farchnad ddomestig a masnachol.

Mae cost ynni yn peri pryder o hyd, yn enwedig i ddiwydiannau ynni-ddwys, ac mae'r tîm Ynni a'r Amgylchedd yn gweithio gyda'r sector i ddarparu pecynnau cymorth hyblyg sydd wedi'u teilwra'n arbennig.

Gwasanaethau Proffesiynol ac Ariannol

Ers ei sefydlu, mae cynigion o gyllid gan y sector wedi sicrhau ymrwymiad cytundebol i greu dros 1,600 o swyddi newydd a diogelu 800 o swyddi eraill.  At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn helpu busnesau yn y Sector sydd wedi creu mwy na 5,800 o swyddi eraill yng Nghymru. 

Mae'r Panel wedi bod yn: cwmpasu a chyflwyno nifer o raglenni hyfforddiant, addysg a phrentisiaeth; helpu i ddatblygu cyfnewidfa ar-lein ddigidol (IXP) yng Nghaerdydd ac yn sgil hyn mae UKTI a'r Sefydliad Gwasanaethau Ariannol wedi enwi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel un o'r canolfannau technoleg ariannol sy'n tyfu yn y DU; mireinio cynnig y Sector i bortreadu Cymru fel y ganolfan orau ar gyfer busnesau o fewn y gwasanaethau proffesiynol ac ariannol y tu allan i Lundain. Mae CityUK a'r Sefydliad Siartredig Gwarannau a Buddsoddiadau (CISI) wedi enwi Caerdydd fel un o ganolfannau ariannol rhanbarthol craidd y DU y tu allan i Lundain.

Mae'r panel wedi bod yn gweithio gyda Whitehall Industry Group (WIG) i hyrwyddo Cymru i Lywodraeth y DU fel lleoliad i ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol ac ar gontract i'r sector cyhoeddus.  Mae WIG yn trefnu dau ddigwyddiad sy'n canolbwyntio ar Gymru er mwyn helpu i gyflawni hyn - un yn Llundain yn ystod hydref 2014 ac un arall yng Nghymru ym mis Ionawr 2015.

Maent wedi bod yn cynorthwyo'r sector cyfreithiol yng Nghymru wrth iddo wynebu heriau digynsail yn deillio o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 a'r lleihad yn y gyllideb Cymorth Cyfreithiol.  Gan weithio gyda Chymdeithas y Gyfraith Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil i'r dirwedd gyfreithiol sy'n newid ac yn helpu cwmnïau cyfreithiol gyda chyfres o seminarau ledled Cymru.

Mae'r panel hefyd wedi chwarae rhan sylweddol a pharhaus yn y broses o greu cronfeydd newydd Cyllid Cymru, gan gynnwys Cronfa Twf Cyfalaf Cymru sy'n werth £20m a Chronfa Sbarduno Technoleg Cymru sy'n werth £7.5m, y cafodd y ddwy ohonynt eu lansio ym mis Ebrill 2014.

Ardaloedd Menter

Mae'r sector wedi bod yn helpu i ddatblygu Ardal Fenter Canol Caerdydd, lle bu datblygiadau sylweddol gan gynnwys prosiect i adeiladu swyddfeydd Gradd A, agor pont droed Pellet Street i gysylltu safle datblygu swyddfeydd Cwr y Ddinas â chanol y ddinas, a'r cyhoeddiad y bydd y rhan fwyaf o'r Ardal yn cael statws Ardal a Gynorthwyir yr UE.

Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae Cymru, dan arweiniad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda'r Ardal Fenter wrth ei gwraidd, yn cynnig cyfle grymus i fusnesau ymsefydlu a ffynnu. Wrth i wybodaeth am yr hyn sydd gennym i'w gynnig gynyddu, bydd mwy a mwy o fusnesau yn gweld Cymru fel lle naturiol i'w ystyried ar gyfer eu strategaethau lleoli. Wrth inni ddod allan o'r dirwasgiad, bydd yr amodau economaidd gwell hefyd yn helpu yn hyn o beth. Bydd Panel newydd y Sector, a gyhoeddir yn fuan, yn codi ein proffil ymhellach.

Mae cystadleuaeth ffyrnig yn y DU am swyddi ac mae llawer o ranbarthau eraill yn gweithio'n galed i gyfleu eu manteision a gwella'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar barhau i wella'r hyn sydd gennym i'w gynnig yng Nghymru, gan adeiladu ar lwyddiant y gwaith a wnaed eisoes i greu ardaloedd a gynorthwyir newydd yng Nghymru ac ysgogi datblygiadau eiddo masnachol yn y Brifddinas.

TGCh

Mae'r sector TGCh yng Nghymru yn cwmpasu electroneg, meddalwedd a gwasanaethau, gyda chymysgedd iach o gwmnïau rhyngwladol mawr a BBaChau domestig.  Fe'i cefnogir gan gymuned ymchwil weithgar yn y prifysgolion a chysylltiadau academaidd/busnes cryf fel yr Athrofa Gwyddor Bywyd yn Abertawe.

Mae strategaeth y sector yn nodi meysydd â blaenoriaeth fel: Manteisio ar asedau TGCh Cymru; Mwy o gydweithio rhwng cyflenwyr a defnyddwyr TGCh; Ysgogi cynnydd mewn ymchwil a datblygu ac arloesedd; gyda themâu ategol fel: Addysg a sgiliau; Rhyngwladol; a Chymorth i BBaChau a busnesau newydd.  Gwnaed cynnydd mawr mewn nifer o feysydd.

Mae'r sector TGCh yng Nghymru wedi cael cymorth da gan Dîm y Sector, dan arweiniad Panel y Sector.  Mae hyn wedi helpu i greu, diogelu a / neu gynorthwyo mwy na 3,600 o swyddi safon uchel a denu dros £26m o fuddsoddiad i Gymru ers ei sefydlu.  Ymhlith y busnesau sydd wedi cael cymorth gan dîm y sector mae General Dynamics, IQE, Airbus Space & Defence, Sony, Alert Logic, CGI a Trusted Data Solutions.

Cydweithiodd Panel a Thîm y Sector TGCh i gynllunio a threfnu digwyddiad Digidol 2014, a gafodd gryn ganmoliaeth.  Roedd y digwyddiad poblogaidd hwn wedi creu cyfleoedd busnes newydd, ymgysylltu â phobl ifanc ac arddangos y diwydiant yng Nghymru.  Yn dilyn y llwyddiant hwn, ym mis Mehefin 2014, lansiodd y tîm gynllun o'r enw 'Dydd Mawrth Digidol', sef digwyddiad rhwydweithio misol i'r diwydiant sydd eisoes wedi denu cymuned weithgar o fwy na 300 o bobl.

Mae Panel a Thîm y Sector TGCh wedi dylanwadu ar bolisïau ehangach Llywodraeth Cymru drwy ymgysylltu â'r Adran Addysg a Sgiliau ac, yn ddiweddarach, lansio cyd-raglen arloesol o'r enw 'Llwybrau Digidol' i godi lefelau sgiliau yn y sector.

Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae'r Sector yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol fel cyfleoedd a bygythiadau i ddatblygiad y sector TGCh yng Nghymru:

·         gwybod am y datblygiadau cyflym mewn technolegau digidol a'r cyfleoedd masnachol sylweddol sy'n gysylltiedig â hyn;

·         y lleihad yn nifer y cwmnïau a nifer y bobl a gyflogir yn y sector TGCh ers 2002;

·         yr angen i godi a gwella proffil rhyngwladol sector TGCh Cymru;

·         yr angen i fynd i'r afael â'r prinder cynyddol o weithwyr TGCh proffesiynol cymwys a phrofiadol ym mhob sector yng Nghymru.

Gwyddorau Bywyd

Mae strategaeth Panel y Sector Gwyddorau Bywyd, sy'n seiliedig ar y pedair elfen gysylltiedig ganlynol, yn hwyluso twf ecosystem gwyddorau bywyd ddynamig yng Nghymru:

·         Sefydlu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru;

·         Sefydlu Canolfan Gwyddorau Bywyd i roi ffocws ffisegol i Wyddorau Bywyd yng Nghymru;

·         Dwysáu gweithgarwch rhyngwladol a chodi ein proffil; 

·         Datblygu ecosystem Gwyddorau Bywyd fywiog gyda chyrhaeddiad rhyngwladol

Ers ei sefydlu yn 2013, mae Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru wedi gwneud pum buddsoddiad hyd yma. Mae'r buddsoddiadau hyn wedi denu lefelau uchel o gyd-fuddsoddiad i Gymru ac maent hefyd wedi codi proffil byd-eang y sector yng Nghymru yn sylweddol fel lleoliad ffyniannus i gwmnïau Gwyddorau Bywyd.

Ers iddi gael ei hagor ym mis Gorffennaf 2014, mae Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru, canolbwynt cenedlaethol a rhyngwladol i'r sectorau Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd yng Nghymru, eisoes yn cynnig cyfleoedd sylweddol i'r sector.

Yn ogystal â chwmnïau byd-eang fel GE Healthcare a Siemens, sydd eisoes yng Nghymru, mae cwmnïau rhyngwladol, fel Eli Lilly a Johnson & Johnson Innovation, wedi cydnabod ei bod yn werth ymgysylltu â'r Gwyddorau Bywyd yng Nghymru ac wedi cofrestru â'r Ganolfan er mwyn bod yn rhan o gynlluniau twf y sector.

Hefyd, mae Canolfan Arloesi Cymru ym maes Gwella Clwyfau, a agorwyd ym mis Medi 2014 yn dilyn cyngor a chymorth gan y Panel, yn gadarnhad pellach o enw da cynyddol Cymru ym maes meddygaeth adfywiol. Mae'r cyfleuster hwn eisoes wedi denu dau fewnfuddsoddiad rhyngwladol yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae BioCymru, sef prif ddigwyddiad y sector yng Nghymru, yn parhau i dyfu gan ddenu 350 o gyfranogwyr yn 2011, 500 yn 2012 a 550 yn 2013. Rhagorodd BioCymru 2014 ar bob targed, gan ddenu 650 o gyfranogwyr a chynnal dros 1,000 o gyfarfodydd partneru.

Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae'r cyfleoedd i'r Sector yn cynnwys:

·         Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru

·         Canolfan Arloesi Cymru ym maes Gwella Clwyfau

·         Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, sy'n creu llif o gyfleoedd busnes newydd

Mae'r bygythiadau i'r Sector yn cynnwys:

·         Argaeledd sgiliau arbenigol

·         Argaeledd eiddo arbenigol

·         Cyfraddau mabwysiadu a rhannu araf/isel ar gyfer technolegau newydd ac arloesedd

Twristiaeth

Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i les economaidd a chymdeithasol Cymru.  Yn 2013 roedd y sector yn cyflogi 121,400 neu 9.4% o'r gweithlu yn uniongyrchol. 

 

Yn 2013 gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymweliadau a'r gwariant gan ymwelwyr a oedd yn aros yng Nghymru o farchnadoedd ym Mhrydain Fawr ac yn rhyngwladol.  Mae'r canlyniadau cynnar ar gyfer hanner cyntaf 2014 yn dangos bod y twf hwn yn parhau. Mae'r canlyniadau dros dro o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ar gyfer pum mis cyntaf 2014 yn dangos cynnydd o 14.6% yng nghyfanswm y teithiau i Gymru (3.47 miliwn) o gymharu â phum mis cyntaf 2013, tra gwelodd Prydain Fawr ostyngiad o 2.9%.  Gwelwyd cynnydd o 9.9% yn y gwariant cysylltiedig yng Nghymru (£564m) tra gwelwyd gostyngiad o 2.9% yn y gwariant ym Mhrydain.

Mae canlyniadau Arolwg Ymweliadau Dydd Prydain Fawr ar gyfer chwe mis cyntaf 2014 yn dangos i tua 48 miliwn o ymweliadau dydd gael eu gwneud â chyrchfannau yng Nghymru, cynnydd o tua 19% o gymharu â'r cyfnod cyfatebol yn 2013 (40 miliwn o deithiau).  Gwelwyd cynnydd o 3% yn y gwariant cysylltiedig. Mae'r ffigurau hyn hefyd yn cymharu'n ffafriol â'r ffigurau ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol, lle gwelwyd gostyngiad o 1% yn nifer y teithiau a gostyngiad o 5% yn y gwariant.

Yn ystod 2013-14, crëwyd 256 o swyddi, diogelwyd 101 o swyddi, cefnogwyd 5,543 o swyddi anuniongyrchol a chynhyrchwyd buddsoddiad o £251m gan yr holl weithgareddau twristaidd, gan gynnwys prosiectau cyfalaf, gwaith datblygu mordeithiau a digwyddiadau mawr.  Crëwyd £180m o wariant ychwanegol yn 2013 gan ymwelwyr y dylanwadwyd yn uniongyrchol arnynt i ddod i Gymru oherwydd holl elfennau ein gweithgarwch marchnata. Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2014, lansiwyd yr ymgyrch amlgyfrwng newydd gwerth £4m "Have you Packed for Wales?", yn targedu'r DU a Gweriniaeth Iwerddon.  Nod yr ymgyrch yw annog marchnadoedd targed Cymru i ailystyried eu delweddau o Gymru drwy arddangos cynhyrchion a chyrchfannau penodol.

 

Dechreuodd gweithgarwch marchnata Croeso Cymru ar gyfer yr hydref yn y DU ac Iwerddon ym mis Medi 2014, ac mae'n dangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig o ran bwyd, yng nghyd-destun gwyliau o safon yn yr hydref. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys cyswllt marchnata uniongyrchol â mwy na 800,000 o ymatebwyr i ymgyrchoedd blaenorol.  Mae gweithgarwch ymgyrchu ar gyfer gwanwyn 2015 yn y DU, Iwerddon a'r Almaen yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd.



[1] Astudiaeth Mapio Ynni a'r Amgylchedd - Crynodeb Gweithredol